Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Constitutional and Legislative Affairs Committee

Bil deddfwriaeth (Cymru)

 

Legislation (Wales) Bill

 

CLA(5) LW

Ymateb gan Keith Bush CF[1]

Evidence from Keith Bush QC

Cyflwyniad

1.                    Mae'r Bil wedi'i rannu'n ddwy brif ran (Rhannau 1 a 2) sy'n ymdrin ag agweddau penodol ar ddeddfwriaeth, sef:

·        Hygyrchedd cyfraith Cymru, gan gynnwys meithrin proses o gydgrynhoi a chodeiddio;

·        Dehongli cyfraith Cymru trwy ddeddfu, mewn gwirionedd, Deddf Ddehongli sy'n gymwys i ddeddfwriaeth Gymreig.

2.                  O ystyried cymeriadau gwahanol y ddwy Ran hyn bydd pob Rhan (gyda, yn achos Rhan 2, darpariaethau perthnasol Rhannau 3 a 4, sy'n ymdrin â materion sy'n atodol i'r Rhan honno) yn cael ei thrafod ar wahân.

Hygyrchedd cyfraith Cymru (Rhan 1)

3.                  Mae rhan 1 o'r Bil yn rhoi effaith i ymateb Llywodraeth Cymru i gynigion Comisiwn y gyfraith "Ffurf ac Hygyrchedd y Gyfraith sy'n Gymwys yng Nghymru "(2016)[2] trwy:

·         Osod dyletswydd statudol ar y Cwnsler Cyffredinol i adolygu hygyrchedd cyfraith Cymru;

·         Gosod dyletswydd statudol ar y Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth Cymru i baratoi, ar gyfer pob un o dymhorau’r Cynulliad Cenedlaethol, raglen sy'n nodi'r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, gan gynnwys eu gweithgareddau arfaethedig sydd wed’u bwriadu i gyfrannu at broses barhaus o gygrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru, i gynnal ei ffurf, ac i hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

4.                  O ystyried natur y darpariaethau hyn, nid oes angen i'r awdur fanylu yn ei ymateb. Ymddengys iddo eu bod yn gam bach ond un arwyddocaol iawn wrth ymateb yn gadarnhaol i argymhellion Comisiwn y Gyfraith. Maent yn debygol o arwain at welliant hynod ddymunol o ran hygyrchedd ac effeithiolrwydd cyfraith Cymru. Yr unig caveat y dymunai’r awdur ei nodi yw na fydd y dyletswyddau a osodir gan Ran 1 yn ystyrlon ini bai fod y gwaith o godeiddio, cydgrynhoi a gwella’n gyffredinol hygyrchedd cyfraith Cymru yn derbyn adnoddau digonol. Os na wneir hynny, yna naill ai bydd y rhaglen sy'n ofynnol o dan adran 2 yn ddigon anuchelgeisiol ac aneffeithiol neu (rhywbeth a fyddai'n waeth byth) byddant yn troi allan i fod yn oruchelgeisiol ac yn amhosibl i’w chyflawni. 

Dehongli a Gweithredu Deddfwriaeth Gymreig (Rhan 2)

Egwyddorion cyffredinol

5.                  Mae'r ffaith fod corff cynyddol o ddeddfwriaeth Gymreig wedi'i lunio gan y Cynulliad (a chan Weinidogion Cymru o dan bwerau dirprwyedig) yn golygu bod angen clir am ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â'i dehongli. Mae allbwn deddfwriaethol y Cynulliad eisoes yn amlygu ffurf a chynnwys neilltuol yn ogystal, fel cwrs, a bod yn unigryw o fewn y Deyrnas Unedig am ei fod yn cymrud ffurf ddwyieithog. Er ei fod yn adeiladu ar sail traddodiad drafftio deddfwriaethol San Steffan, mae'n anochel, wrth iddo ddatblygu, y bydd Deddf Ddehongli 1978, a luniwyd fel cymorth i ddehongli deddfwriaeth a ddrafftiwyd ar gyfer ac a gynhyrchwyd gan y ddeddfwrfa benodol honno, yn dod yn gynyddol annigonol fel modd i gyflawni'r swyddogaeth honno mewn perthynas â deddfwrfa wahanol.

6.                 Mae'r cynsail o gael statudau dehongli ar wahân ar gyfer deddfwrfeydd datganoledig o fewn y DU wedi'i hen sefydlu. Mae’r Interpretation (Northern Ireland) Act 1954 yn dyddio'n ôl i ddyddiau’r Senedd Gogledd Iwerddon a sefydlwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Iwerddon 1920 ond erbyn hyn mae’n gymwys i ddehongli Deddfau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac is-ddeddfwriaeth a wneir oddi tanynt. Yr un sy'n cyfateb yn yr Alban yw’r Interpretation and Legislative Reform (Scotland) Act 2010. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n eithriad ac nid oes rheswm resymegol nac ymarferol pam y dylai hyn barhau. I'r gwrthwyneb, am y rhesymau y cyfeiriwyd atynt yn y paragraff olaf, mae'r angen am gymhwyster cyfatebol Cymreig i'r statudau dehongli datganoledig eraill yn amlwg.

 

Rhwystrau posibl i weithredu

7.                  Pan ddaw'n fater o godeiddio'r modd y dehonglir statudau, mae’r tair deddfwrfa ddatganoledig yn wynebu her gyffredin y berthynas rhwng y statud dehongli datganoledig ac un y DU.

8.                 Mae deddfwriaeth y DU a deddfwriaeth ddatganoledig yn bodoli’n gyfochrog â'i gilydd, gyda deddfwrfa’r DU a’r rhai datganoledig yn cynhyrchu deddfwriaeth, pob o fewn eu cymwyseddau deddfwriaethol perthnasol, ar yr un pryd. Felly, mae'r gyfraith statud sy'n gymwys ym mhob tiriogaeth ddatganoledig yn cynnwys deddfwriaeth y DU a'r ddeddfwriaeth ddatganoledig.

9.                  Yn ogystal, hyd yn oed pan fydd pwnc deddfwriaeth wedi’i ddatganoli, mae llawer o ddeddfwriaeth y DU, sy'n dyddio o'r cyfnod cyn datganoli, yn parhau yn weithredol. Mae hyn yn ffactor lleiaf arwyddocaol yn achos Gogledd Iwerddon, gan fod datganoli wedi dechrau mor bell yn ôl â 1921 (er ei fod, wrth gwrs, wedi'i atal am gyfnodau sylweddol ers hynny). Yn achos yr Alban, roedd pob deddfwriaeth cyn 1999, p'un a oedd yn ymwneud â phynciau datganoledig ai peidio, yn ddeddfwriaeth Senedd y DU er ei bod yn aml ar ffurf  Deddfau Seneddol ar gyfer yr Alban yn unig ac wedi’i drafftio gan gyfreithwyr drafftio o'r Alban.

10.              Yn achos Cymru, mae effaith deddfwriaeth y DU ar Gymru hyd yn oed yn fwy, o ganlyniad i dri ffactor:

·         Cyn 2007 (dyddiad diweddarach nag yn achos y deddfwrfeydd datganoledig eraill) bu’r holl ddeddfwriaeth a oedd yn gymwys i Gymru yn ddeddfwriaeth Senedd y DU;

·         Oherwydd y cwmpas mwy cyfyngedig sydd i ddatganoli yng Nghymru – yn bennaf gan fod plismona, y gyfraith droseddol a sifil gyffredinol ac awdurdodaeth gyfreithiol sengl Cymru a Lloegr wedi’u cadw yn ôl gan y DU - mae cwmpas y deddfwriaeth barhaus y DU sy'n gymwys i Gymru yn fwy eang nag yn achos yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

·         Mae’r ffaith fod y ddeddfwriaeth a oedd yn gymwys i Gymru, cyn datganoli deddfwriaethol, yn ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr (yn hytrach na deddfwriaeth a oedd yn benodol i Gymru) wedi golygu bod deddfwriaeth y Cynulliad, yn y gorffennol, wedi gweithredu, yn aml iawn, trwy ddiwygio deddfwriaeth Cymru a Lloegr sydd eisoes yn bod yn hytrach na thrwy greu statudau cynhwysfawr newydd hunan-gynhwysol sy'n gymwys i Gymru yn unig.

11.                 O ganlyniad, mae’r rhyng-gysylltiadau rhwng Deddf Ddehongli'r DU ac unrhyw Ddeddf Ddehongli newydd ddatganoledig (fel y Bil presennol) yn fwy agos a chymhleth nag yn achos y tiriogaethau datganoledig eraill. Er mwyn cyflawni'r nod o wella eglurder a hygyrchedd deddfwriaeth Cymru, mae angen, felly, rhoi sylw penodol i'r diffiniad o'r ffin rhwng maes y statud dehongli newydd yng Nghymru ac un Deddf Ddehongli 1978.

12.               Mae'r Bil yn cynnig[3] y dylai ei ddarpariaethau fod yn gymwys i:

(a)   Deddfau'r Cynulliad sy'n derbyn y Cydsyniad Brenhinol ar neu ar ôl y diwrnod pan ddaw Rhan 2 o'r Bil i’w llawn rym, ac i

(b)  Is-offerynnau Cymraeg a wnaed ar y diwrnod hwnnw neu wedi hynny, ac eithrio'r rhai a wneir o dan ddeddfau'r DU (neu ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir) oni bai eu bod yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru neu awdurdodau datganoledig Cymru yn unig ac yn gymwys i Gymru yn unig.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cychwyn Rhan 2 ar 1 Ionawr 2020, er mwyn ei gwneud mor hawdd â phosibl i ddweud a yw Deddf Cynulliad (neu ddarn o is-ddeddfwriaeth) yn dod o dan y Ddeddf newydd neu o dan Ddeddf Ddehongli 1978.

13.               O ran Deddfau'r Cynulliad, ni dyma’r unig ffordd bosibl o fynd o gwmpas pethau. Mae'n unol â'r sefyllfa mewn perthynas â'r Alban[4] ond cymhwyswyd ddeddfwriaeth gyfatebol ar gyfer Gogledd Iwerddon[5] i holl ddeddfau Senedd Gogledd Iwerddon, p'un a gawsant eu pasio cyn i'r ddeddf ddehongli ddatganoledig ddod i rym neu ar ôl hynny. Canlyniad mabwysiadu'r dull cyntaf o'r rhain, yn y Bil, yn hytrach na'r ail un, byddai y bydd dosbarth o statudau'r Cynulliad (22 o Fesurau a thua 40 o Ddeddfau) a fydd, nes iddynt gael eu diddymu'n llawn[6] yn cael ei ddehongli o dan Ddeddf Dehongli 1978 yn hytrach nag o dan Ddeddf deddfwriaeth (Cymru) 2019. Mae’r Memorandwm Esboniadol[7] yn trafod manteision ac anfanteision cymhwyso'r Bil i holl Fesurau a Deddfau'r Cynulliad pa bryd bynnag y’i gwnaethpwyd. Y fantais fyddai creu rheol glir a chynhwysfawr y byddai pob deddfwriaeth Gymreig yn cael ei dehongli o dan un cod dehongli dwyieithog. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi'r anfanteision, sydd yn bennaf yn rhai ymarferolal ond sy’n cynnwys un anhawster cyfreithiol, sef bod deddfwriaeth y Cynulliad sydd eisoes yn bod wedi'i  drafftio gyda'r bwriad y byddai  rheolau a diffiniadau Deddf 1978 yn gymwys iddi. Gallai cymhwyso, yn ôl-weithredol,  reolau dehongli gwahanol, a allai fod yn faterol wahanol, i ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bod yn gallu arwain at ganlyniadau annisgwyl pe bai anghydfod yn codi ynglŷn â dehongli'r ddeddfwriaeth dan sylw.

14.               Gan fod ystyriaeth ofalus wedi’i rhoi i'r cwestiwn, gan ddod i benderfyniad rhesymedig, gellid bod wedi disgwyl y byddai’r ateb a fabwysiadwyd mewn perthynas â dehongli deddfwriaeth sylfaenol, gan osgoi unrhyw elfen o ôl-weithredu wrth gymhwyso  rheolau dehongli ‘r Bil, hefyd yn cael ei gymhwyso, ar ôl ei addasu, i is-ddeddfwriaeth. Mae’r ymagwedd a gymerwyd mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth newydd a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol sydd eisoes yn bod, ym marn yr awdur, yn un sy'n newid y dull o ddehongli’r is-ddeddfwriaeth honno mewn ffordd sydd mewn perygl o greu gwahaniaeth dryslyd rhwng y rheolau ar gyfer dehongli corff mawr o ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n gymwys i Gymru a’r rhai ar gyfer dehongli is-ddeddfwriaeth a wnaed oddi tano.

Y broblem o ddod o hyd i reol syml a chyson ar gyfer dehongli is-ddeddfwriaeth Gymreig

15.               Gwneir llawer o is-ddeddfwriaeth yng Nghymru o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddfau Seneddol y DU. Mae'r rhain fel arfer (ond nid bob amser, gan fod San Steffan yn parhau i ddeddfu o bryd i'w gilydd ar faterion datganoledig o dan Gonfensiwn Sewel) yn ddeddfau cyn-datganoli Cymru a Lloegr y trosglwyddwyd pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth oddi tanynt i Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru.

16.               Gellir cael syniad o raddfa'r arfer hwn drwy ddadansoddi’r 259 o Offerynnau Statudol Cymru a gyhoeddwyd gan legislation.gov.uk ar gyfer 2018. O'r rhain, roedd 134 yn orchmynion priffyrdd lleol arferol. Mae'r rhain yn defnyddio terminoleg safonol gyfyngedig ac maent yn annhebygol iawn o godi cwestiynau dehongli. O'r 125 offeryn sy’n weddill, dim ond 45 a wnaed o dan bwerau a roddwyd i Weinidogion Cymru gan ddeddfwriaeth sylfaenol Gymreig (Deddfau neu Fesurau), tra bod 22 wedi’u gwneud, yn bennaf, o dan adran 2 (2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, gan roi effaith i gyfarwyddebau'r UE. Mae hynny'n gadael 58 a wnaed o dan Ddeddfau Seneddol.

17.               Felly, o'r offerynnau statudol Cymreig cyffredinol (h.y. rhai sydd heb fod yn rhai lleol) a wnaed yn 2018 o dan naill ai Ddeddfau Seneddol neu Ddeddfau (neu Fesurau) y Cynulliad, gwnaed 56% o dan Ddeddfau Seneddol a 44% o dan Ddeddfau neu Fesurau'r Cynulliad. Dros amser, bydd y gyfran o offerynnau statudol Cymru a wneir o dan Ddeddfau Seneddol yn tueddu i ostwng, ond yn y dyfodol rhagweladwy byddant, yn anochel, yn ffurfio cyfran sylweddol o is-offerynnau Cymreig fel y'u diffinnir gan adran 3(2) o'r Bil.

18.               Effaith arfaethedig adran 3(1) o'r Bil yw y bydd y rheolau dehongli a geir ynddo, o'r dyddiad y daw'r Ddeddf i rym, yn gymwys i holl is-ddeddfwriaeth Gymreig, boed a fyddai'r is-ddeddfwriaeth wedi’i gwneud o dan Ddeddf Seneddol neu o dan Ddeddf Cynulliad. Y rhesymeg dros y rheol hon yw y bydd pob deddfwriaeth a "wnaed yng Nghymru" o hynny ymlaen i gael ei dehongli o dan ddarpariaethau Deddf Ddeddfwriaeth (Cymru) yn hytrach na rhai Deddf Dehongli 1978 y DU.

19.               Er bod y dyhead o greu un cod dehongli ar gyfer holl ddeddfwriaeth Cymru, rhai sylfaenol a rhai eilaidd, yn ganmoladwy, rhaid cofio na fydd y Bil, mewn gwirionedd, yn cyflawni hyn. Bydd deddfwriaeth sylfaenol Gymreig a ddeddfwyd cyn i'r Bil ddod i’w lawn rym yn parhau i fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Dehongli 1978. A bydd is-ddeddfwriaeth Gymreig a wneir ar y cyd â Gweinidogion y DU (er enghraifft er mwyn gweithredu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE ar raddfa Cymru a Lloegr, Prydain Fawr neu'r Deyrnas Unedig) hefyd yn parhau i gael ei dehongli o dan Ddeddf 1978. Felly ni fydd y fantais o greu un set neu reolau dehongli ar gyfer holl ddeddfwriaeth Cymru yn cael ei chyflawni, mewn gwirionedd, gan adran 3(1)(c). Bydd rhai is-ddeddfau Gymreig yn parhau i fod yn ddarostyngedig i reolau gwahanol.

20.            Mae'r ffaith y bydd y Mesur, fel y mae, yn dal i olygu y bydd dwy set o reolau ar gyfer dehongli is-ddeddfwriaeth Gymreig yn parhau mewn bodolaeth yn agor y posibilrwydd y gallai fod dull deuol amgen dull deuol (ond wedi'i fframio'n wahanol) sydd, er y byddai’n rhannu'r anfantais na fyddai'n cynnwys holl is-ddeddfwriaeth Cymru, yn rhydd o gymhlethdodau penodol eraill sy'n gynhenid i'r cynnig presennol. Y dull amgen byddai cymhwyso'r Bil dim ond i is-ddeddfwriaeth a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol y mae’r Bil yn gymwys iddi. Byddai is-ddeddfwriaeth Gymreig a wnaed o dan Ddeddfau Seneddol yn parhau i fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Dehongli 1978 (fel y byddai'r ddeddfwriaeth a wnaed o dan deddfwriaeth sylfaenol Gymreig cyn i'r Bil ddod i rym yn llawn).

21.               Mae tair dadl o blaid parhau i gymhwyso Deddf Ddehongli 1978 i is-ddeddfwriaeth Gymreig a wnaed o dan Ddeddfau Seneddol (pryd bynnag y'u deddfir):

i)                    Dylai is-ddeddfwriaeth gael ei dehongli'n gyson â'r ddeddfwriaeth sylfaenol y mae'n rhoi effaith iddi. Adlewyrchir hyn yn adran 11 o Ddeddf 1978 sy'n darparu “Where an Act confers power to make subordinate legislation, expressions used in that legislation have, unless the contrary intention appears, the meaning which they bear in the Act.” Yn ogystal â sicrhau cysondeb o ran dehongli rhwng deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth mae i hyn hefyd, gyda llaw, y fantais ymarferol o osgoi gorfod naill ai atgynhyrchu'r diffiniadau yn y Ddeddf mewn unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir oddi tani neu'n gorfodi cynnwys, dro ar ôl tro, ym mhob is-offeryn, ddarpariaeth sy'n datgan bod i unrhyw fynegiant a ddefnyddir yn yr offeryn hwnnw yr un ystyr ag yn y rhiant Ddeddf.

Mae'r Bil yn hepgor y rheol hon. Ond bydd Deddfau Seneddol yn dal yn ddarostyngedig iddi a byddant wedi'u drafftio ar y ddealltwriaeth y bydd yn weithredol. Felly, os bydd darpariaeth bresennol adran 3 yn cael ei chadw, bydd yn ofynnol i is-ddeddfwriaeth Cymru gael ei dehongli'n aml yn ôl rheol wahanol i'r un y bydd y rhai a ddrafftiodd y ddeddfwriaeth sylfaenol wedi tybio y bydd yn gymwys. Mae'n ymddangos bod hwn yn rheol sylfaenol simsan. Dylid drafftio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth yn unol â chyfres gyffredin o reolau. Yn y dyfodol gall y rhain fod yn rheolau sy'n berthnasol i ddeddfwriaeth Gymreig neu'r rheolau sy'n berthnasol i ddeddfwriaeth y DU. Ond byddai cymysgu'r ddau fel y cynigir yn debygol o greu dryswch.

ii)                 Mae is-ddeddfwriaeth yn aml yn diwygio offerynnau cynharach. Os bydd is-offeryn Cymreig a wneir ar ôl i'r Bil ddod i’w lawn rym yn diwygio offeryn cynharach, beth yw'r sefyllfa? Mae adran 30 (2) yn darparu, pan fo deddfiad presennol yn cael ei ddiwygio gan offeryn eilaidd Cymreig drwy fewnosod geiriau neu eu hamnewid, bod y geiriau hynny'n "cael effaith fel rhan o'r deddfiad hwnnw". Mae'r ymddangos bod hyn yn golygu y bydd pa reolau dehongli bynnag sy'n gymwys i'r offeryn fel mae’n sefyll hefyd yn gymwys i’r geiriau a fewnosodwyd. Felly, fel sy'n digwydd yn aml, mae is-offeryn yn cynnwys darpariaethau newydd annibynnol a hefyd rhai sy’n diwygio offeryn sy'n bodoli eisoes a wnaed o dan Ddeddf Seneddol (neu ddeddfwriaeth sylfaenol Gymreig) cyn i’r Bil ddod i’w lawn rym, bydd y rheol ar gyfer dehongli rhai o ddarpariaethau'r offeryn yn wahanol i'r rhai sy'n gymwys i rai eraill – ffynhonnell amlwg o ddryswch ac ansicrwydd.

Yn anffodus bydd y broblem hon yn codi'n anochel mewn perthynas ag offerynnau a wneir o dan ddeddfwriaeth sylfaenol Gymreig a ddeddfir cyn i'r Bil ddod i rym ond mae'r risg fod offeryn o'r fath yn cynnwys darpariaethau sy’n anghyson â'r Mesur yn gyfyngedig ac yn debyg o fedru cael ei gadw dan reolaeth. Yn achos y corff mawr iawn o is-ddeddfwriaeth sy'n gymwys i Gymru ond a wnaed o dan Ddeddfau Seneddol, mae'r risg o anghysonderau o bwys rhwng yr ystyr y mae'n ofynnol ei rhoi i wahanol ddarpariaethau o fewn yr un offeryn yn debygol o fod yn fwy o lawer.

iii)               Lle mae pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth Gymreig yn codi o dan Ddeddfau Seneddol maen, fel arfer wedi’u rhoi i’r "Ysgrifennydd Gwladol" ac wedyn wedi’u trosglwyddo i Weinidogion Cymru o ran Cymru. Bydd pwerau o'r fath bron bob amser yn bodoli’n gyfochrog â phwerau i wneud is-ddeddfwriaeth ar y materion perthnasol a gyflwynir i Weinidog yn y DU mewn perthynas â Lloegr. Mae effaith adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978 yn golygu, ar hyn o bryd, bod is-ddeddfwriaeth a wneir ar fater penodol mewn perthynas â phob tiriogaeth i'w dehongli, gan lysoedd sy'n gweithredu o fewn awdurdodaeth gyffredin Cymru a Lloegr, yn ôl yr un rheolau. Effaith adran 3 fyddai tanseilio'r arfer cyffredin hwn, nid o ganlyniad i unrhyw wahaniaeth polisi ond oherwydd gwahaniaethau posibl yn y rheolau dehongli sy'n berthnasol i eiriad a fydd yn aml yn union yr un fath. I'r rhai sy'n gorfod deall a chymhwyso is-ddeddfwriaeth, er enghraifft mewn diwydiant neu’r proffesiwn cyfreithiol, mae'n bosibl iawn y bydd hyn yn arwain at ansicrwydd diangen wrth gymhwyso'r un geiriad ar y naill ochr a'r llall i'r ffin.

Casgliad

22.             Er mwyn, felly, ddiogelu'r egwyddor o hybu sicrwydd a chysondeb wrth ddehonglia chymhwyso deddfwriaeth Gymreig, mae’r awdur yn cynnig na ddylai'r Bil fod yn gymwys i is-offerynnau a wnaed o dan Ddeddfau Senedd y DU, ac felly y bydd y rhain yn parhau i gael eu dehongli yn unol â Deddf Dehongli 1978.      

 

Keith Bush CF

21 Ionawr 2019

ATODIAD

Mae Keith Bush CF LLM (Llundain) yn fargyfreithiwr ac yn Athro Anrhydeddus yn ysgol gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hefyd yn Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg, yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Comisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru ac yn Drysorydd Sefydliad Cymru’r Gyfraith.

Ar ôl gweithio fel Bargyfreithiwr yng Nghaerdydd am dros 20 mlynedd, ymunodd â gwasanaeth cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn 1999, lle daeth yn Gwnsler Deddfwriaethol, gan arwain y tîm cyfreithiol a weithiodd ar nifer o Filiau'n ymwneud â Chymru, gan gynnwys yr un a ddaeth yn Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. O 2007 tan 2012, ef oedd prif gynghorydd cyfreithiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae ef wedi cyfrannu at y Statute Law Review, y Cambrian Law Review, Wales Legal Journal, Journal of the Welsh Legal History Society a’r New Law Journal ac mae'n darlithio'n aml ar faterion cyfraith gyhoeddus yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'n Gyfarwyddwr Modiwl ar gyfer dau fodiwl israddedig arloesol ym Mhrifysgol Abertawe ar Ddeddfwriaeth a'r Gyfraith Llywodraethiant Aml-lefel yn ogystal â chyfrannu at addysgu cyfraith gyhoeddus yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'n awdur gwaith iaith Gymraeg ar gyfraith gyhoeddus- ‘Sylfeini’r Gyfraith Gyhoeddus’ a gomisiynwyd gan Brifysgol Bangor a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae ei ddiddordebau addysgu ac ymchwil yn cynnwys cyfraith datganoli, gwladwriaethau ffederal a lled-ffederal a strwythurau cyfansoddiadol annhiriogaethol a hawliau cyfreithiol grwpiau ieithyddol a diwylliannol   



[1] Gweler yr  Atodiad ar gyfer cv yr awdur.

[2] https://s3-eu-west-2.amazonaws.com/lawcom-prod-storage-11jsxou24uy7q/uploads/2016/10/lc366_form_accessibility_wales_Welsh.pdf

[3] adran 3

[4] Interpretation and Legislative Reform (Scotland) Act 2010 adran 1 (1)

[5] Interpretation (Northern Ireland) Act 1954 adran 2 (1)

[6] Bydd diwygiad testunol, yn y dyfodol, i Ddeddf o'r fath (adran 30 (1)) "yn cael effaith fel rhan o'r Ddeddf honno". Felly, bydd deddfwriaeth sylfaenol y Cynulliad sydd eisoes yn bod, a hyd yn oed diwygiadau iddi yn y dyfodol, yn parhau i fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Dehongli 1978. Gweler, pellach, paragraff 21(ii) isod

[7] Paragraff 67- 69